Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a
fideogynadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 29 Mawrth 2023
Amser:
09.30
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Marc Wyn Jones
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
SeneddHinsawdd@senedd.cymru
------
Rhag-gyfarfod preifat (09.15-09.30)
Cyfarfod cyhoeddus (09.30-11.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon, a datgan buddiannau
(09.30)
2 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) - tystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: rhan 1
(09.30-10.30) (Tudalennau 1 - 35)
Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Olwen Spiller, Dirprwy Bennaeth Diogelu'r Amgylchedd - Llywodraeth Cymru
Roger Herbert, Pennaeth Monitro, Tystiolaeth ac Asesu Ansawdd Aer - Llywodraeth Cymru
Helen Rowley, Cyfreithiwr – Llywodraeth Cymru
Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), fel y’i cyflwynwyd
Dogfennau atodol:
Briff ymchwil - Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau)
(Cymru)
Crynodeb o’r darpariaethau - Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a
Seinweddau) (Cymru)
Egwyl (10.30-10.40)
3 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) - tystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: rhan 2
(10.40-11.30)
Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Olwen Spiller, Dirprwy Bennaeth Diogelu'r Amgylchedd - Llywodraeth Cymru
Roger Herbert, Pennaeth Monitro, Tystiolaeth ac Asesu Ansawdd Aer - Llywodraeth Cymru
Helen Rowley, Cyfreithiwr – Llywodraeth Cymru
4 Papurau i'w nodi
(11.30)
4.1 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)
(Tudalennau 36 - 37)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Cadeirydd at y Llywydd mewn perthynas â'r amserlen arfaethedig ar gyfer Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)
4.2 Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)
(Tudalennau 38 - 39)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Prif Weinidog at y Llywydd mewn perthynas â Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) a Chytundeb Sefydliad Masnach y Byd (WTO) ar Rwystrau Technegol sy'n effeithio ar Fasnach
4.3 Cysylltedd digidol yng Nghymru
(Tudalennau 40 - 47)
Dogfennau atodol:
Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor: Cysylltedd Digidol - band eang a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2022
4.4 Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd
(Tudalen 48)
Dogfennau atodol:
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Cadeirydd mewn perthynas â chyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd
4.5 Y Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
(Tudalennau 49 - 50)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad mewn perthynas â'r Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
4.6 Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023
(Tudalennau 51 - 52)
Dogfennau atodol:
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023
4.7 Cyllideb Llywodraeth Cymru 2023-24
(Tudalennau 53 - 54)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Gadeiryddion Pwyllgorau mewn perthynas â dogfennau’r gyllideb ddrafft a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
(11.30)
Cyfarfod preifat (11.30-12.30)
6 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
7 Fframwaith cyffredin Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU - briffio technegol
(Tudalennau 55 - 64)
Dogfennau atodol:
Briff ymchwil - Fframweithiau Cyffredin Dros Dro: Cynllun Masnachu Allyriadau (Saesneg yn unig)
8 Craffu blynyddol ar waith Cyfoeth Naturiol Cymru - trafod adroddiad drafft y Pwyllgor
9 Trafod y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â dogfennau’r gyllideb ddrafft a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru
10 Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor
(Tudalennau 65 - 71)
Dogfennau atodol:
Papur - Blaenraglen waith (Saesneg yn unig)